Welsh Third Sector Digital Leaders / Arweinwyr Digidol Trydydd Sector Cymru

The School for Social Entrepreneurs, Zoe Amar Digital and Wales Council for Voluntary Action have partnered to deliver Welsh Third Sector Digital Leaders, a course to help up to 20 charity, social enterprise and non-profit leaders in Wales be confident about leading digital change in their organisations, helping them be more sustainable and relevant and creating the digital leaders of tomorrow.

We are delighted to have received funding from WCVA to offer this course at no cost to participants.

 

Mae’r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, Zoe Amar Digital a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) wedi sefydlu partneriaeth i gyflawni Arweinwyr Digidol Trydydd Sector Cymru, sef cwrs i helpu hyd at 20 o elusennau, mentrau cymdeithasol ac arweinwyr nid-er-elw yng Nghymru i fod yn hyderus ynghylch arwain newid digidol yn eu mudiadau, a’u helpu i fod yn fwy cynaliadwy a pherthnasol a chreu arweinwyr digidol yfory.

Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi derbyn cyllid gan CGGC i gynnig y cwrs hwn heb gost i gyfranogwyr.

 

Course overview

Many CEOs, trustees and senior non-profit leaders are aware of the need to engage with digital but are struggling to do so. There are few resources which can help them understand how digital fits into organisational strategy and how to identify risks and opportunities – Third Sector Digital Leaders aims to fill this gap. The course will:

  • Help charity and social enterprise leaders in Wales to develop digital skills which will make their organisations more visible and fit for purpose in the digital age, generating more income and strengthening relationships with key audiences
  • Give charity and social enterprise leaders an understanding of key areas of digital and how they integrate into organisational strategy and governance
  • Arm the leaders of charities and social enterprises in Wales with the right digital skills help them to develop a more entrepreneurial, agile approach which will further their careers
  • Encourage leaders to learn from each other and from speakers outside the sector, exposing them to cutting edge insights and building their confidence

“The best training I’ve ever done. Thank you for such a thought provoking and entertaining four days”. Georgina Pope, Liberty.

Trosolwg o’r cwrs

Mae llawer o Brif Swyddogion Gweithredol, ymddiriedolwyr ac uwch-arweinwyr nid-er-elw yn gwybod bod angen iddynt ymhél â digidol, ond yn cael anhawster gwneud hynny. Ychydig iawn o adnoddau sydd ar gael i’w helpu i ddeall sut mae digidol yn ffitio i mewn i strategaeth eu mudiadau a sut i nodi risgiau a chyfleoedd – nod Arweinwyr Digidol y Trydydd Sector yw llenwi’r bwlch hwn. Bydd y cwrs hwn yn:

  • Helpu arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i ddatblygu sgiliau digidol a fydd yn gwneud eu mudiadau’n fwy gweladwy ac addas i’w diben yn yr oes ddigidol sydd ohoni, gan gynhyrchu mwy o incwm a chryfhau cydberthnasau â chynulleidfaoedd allweddol
  • Rhoi dealltwriaeth i arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol o feysydd allweddol digidol a sut maen nhw’n integreiddio i mewn i strategaeth a llywodraethu mudiadau
  • Rhoi’r sgiliau digidol cywir i arweinwyr elusennau a mentrau cymdeithasol a fydd yn eu helpu i ddatblygu dulliau gweithredu mwy entrepreneuraidd a hyblyg a fydd yn datblygu eu gyrfaoedd
  • Annog arweinwyr i ddysgu o’i gilydd ac o siaradwyr y tu allan i’r sector, gan eu cyflwyno i’r mewnwelediadau diweddaraf a magu eu hyder

Who should attend the course?

  • CEOs, trustees and directors at social enterprises based in Wales or delivering services in Wales
  • CEOs, trustees and directors at charities in Wales or delivering services in Wales
  • Heads of digital at social enterprises and charities in Wales or delivering services in Wales on a career path to more senior digital roles

Pwy ddylai fynychu’r cwrs?

  • Prif Swyddogion Gweithredol, ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr mentrau cymdeithasol yng Nghymru neu rai sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru
  • Prif Swyddogion Gweithredol, ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr elusennau yng Nghymru neu rai sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru
  • Penaethiaid Digidol mewn mentrau cymdeithasol ac elusennau yng Nghymru neu rai sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru ar lwybr gyrfa at rolau digidol uwch

 

“Yr hyfforddiant gorau i mi ei wneud erioed. Diolch am bedwar diwrnod difyr sydd wedi peri i mi feddwl”. Georgina Pope, Liberty.

What you’ll learn:

Content will be tailored to meet the needs of the participants, but you can expect to learn

  • How to benchmark your organisation’s digital performance against others in the sector
  • How to manage organisational change in digital and how to develop digital skills across your organisation
  • How to understand your organisation’s users, how to gain user insights and data on a budget, and how to redesign what how your organisation delivers services accordingly
  • How to create a digital strategy and execute it effectively
  • How to improve sustainability by developing and increasing digital fundraising, and how to use online channels for business development and growing partnerships.

Speakers on the course will come from a range of organisations across both for profit and not-for-profit sectors.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

Bydd y cynnwys wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion y cyfranogwyr, ond gallwch ddisgwyl dysgu’r canlynol:

  • Sut i feincnodi perfformiad digidol eich mudiad yn erbyn perfformiad eraill yn y sector
  • Sut i reoli newidiadau digidol mewn mudiad a sut i ddatblygu sgiliau digidol ar draws eich mudiad
  • Sut i ddeall defnyddwyr eich mudiad, sut i gael safbwyntiau a data defnyddwyr ar gyllideb, a sut i ailgynllunio sut mae eich mudiad yn darparu gwasanaethau yn unol â hynny
  • Sut i greu strategaeth ddigidol a’i chyflawni’n effeithiol
  • Sut i wella cynaliadwyedd drwy ddatblygu a chynyddu’r ymdrech i godi arian yn ddigidol, a sut i ddefnyddio sianeli ar-lein i ddatblygu busnesau a thyfu partneriaethau.

Bydd y siaradwyr ar y cwrs yn dod o fudiadau amrywiol o’r sectorau er elw ac nid-er-elw.

What do previous course participants say?

“Excellent, relevant speakers. Lots of insights that resonate and full of tips, tricks and know how from those who are doing it. The price compared to a conference is very good due to the speaker quality and relevance”. Clive Gardiner, RNIB.

“A really useful and crucial course. This is one of the biggest areas for CEOs in the 3rd Sector.” Simon Hopkins, Turn2Us

“I would thoroughly recommend this course to anyone, no matter your skill level. For seasoned digital personnel it will get to think in different ways and update you, for those at the beginning of their digital journey it will inspire you”. Adam O’Riley, The Nurture Group Network.

“The best training I’ve ever done. Thank you for such a thought provoking and entertaining four days”. Georgina Pope, Liberty.

Beth mae cyfranogwyr blaenorol y cwrs yn ei ddweud?

“Siaradwyr ardderchog, perthnasol. Llawer o fewnwelediadau perthnasol ac yn llawn syniadau, triciau a dulliau gweithredu gan y rheini sy’n ei wneud. Mae’r pris yn dda iawn o’i gymharu â chynhadledd oherwydd ansawdd a pherthnasedd y siaradwr”. Clive Gardiner, RNIB.

“Cwrs defnyddiol a hanfodol iawn. Hwn yw un o’r meysydd mwyaf i Brif Swyddogion Gweithredol yn y 3ydd Sector.” Simon Hopkins, Turn2Us

“Byddwn yn llwyr argymell y cwrs hwn i unrhyw un, waeth beth y bo’ch lefel sgiliau. I bersonél sydd wedi hen arfer â digidol, bydd yn gwneud i chi feddwl mewn ffyrdd gwahanol ac yn eich diweddaru, i’r rheini ar ddechrau eich taith ddigidol, bydd yn eich”. Adam O’Riley, Rhwydwaith Grwpiau Anogaeth.

“Yr hyfforddiant gorau i mi ei wneud erioed. Diolch am bedwar diwrnod difyr sydd wedi peri i mi feddwl”. Georgina Pope, Liberty.

Location and dates

The course will be delivered online, using Zoom across the following dates:

  • Tuesday 1 June 1.30pm-4pm
  • Friday 4 June 9.30am-12.30pm
  • Tuesday 8 June 1.30-4pm
  • Friday 11 June 9.30am-12.30pm
  • Tuesday 15 June 9.30am-12.30pm
  • Friday 18 June 9.30am-12.30pm
  • Tuesday 22 June 1.30-4pm
  • Thursday 24 June 1.30-4pm

Participants must be able to attend all dates to be eligible for the course.

Lleoliad a dyddiadau

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio Zoom, ar draws y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth 1 Mehefin 1.30pm-4pm
  • Dydd Gwener 4 Mehefin 9.30am-12.30pm
  • Dydd Mawrth 8 Mehefin 1.30-4pm
  • Dydd Gwener 11 Mehefin 9.30am-12.30pm
  • Dydd Mawrth 15 Mehefin 9.30am-12.30pm
  • Dydd Gwener 18 Mehefin 9.30am-12.30pm
  • Dydd Mawrth 22 Mehefin 1.30-4pm
  • Dydd Iau 24 Mehefin 1.30-4pm

Rhaid i gyfranogwyr allu mynychu’r holl ddyddiadau i fod yn gymwys i wneud y cwrs.